Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 18 Mawrth 2021
Amser:
13.32 -
14.25
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11089
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
John Griffiths AS (Cadeirydd) Huw Irranca-Davies AS Delyth Jewell AS Laura Anne Jones AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Catherine Hunt (Ail Glerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) Osian Bowyer (Ymchwilydd) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Cafwyd ymddiheuriadau gan Dawn Bowden AS a Mandy Jones AS.
1.2. Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.
2 Papurau i’w nodi
2.1 Llythyr gan y Llywydd at holl Gadeiryddion Pwyllgorau'r Senedd ynghylch y Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021 – effaith ar Bwyllgorau’r Senedd
2.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Llywydd at holl Gadeiryddion Pwyllgorau'r Senedd ynghylch y Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021 – effaith ar Bwyllgorau’r Senedd.
2.2 Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch yr ymchwiliad i ddiogelwch tân mewn adeiladau uchel iawn (Papur Gwyn gan Lywodraeth Cymru - Adeiladau mwy diogel yng Nghymru: Ymgynghoriad)
2.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch yr ymchwiliad i ddiogelwch tân mewn adeiladau uchel iawn (Papur Gwyn gan Lywodraeth Cymru - Adeiladau mwy diogel yng Nghymru: Ymgynghoriad).
2.3 Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar effaith COVID-19 ar y sector gwirfoddol
2.3.a Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar effaith COVID-19 ar y sector gwirfoddol
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
3.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
4 Trafod Adroddiad Gwaddol Drafft y Pwyllgor
4.1. Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad gwaddol drafft.
5 Trafod ymateb y Pwyllgor i’r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn Llywodraeth Cymru - Adeiladau Mwy Diogel yng Nghymru
5.1. Trafododd y Pwyllgor yr ymateb i’r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn Llywodraeth Cymru - Adeiladau Mwy Diogel yng Nghymru